Annwyl Pwyllgor Deisebau

Nid wyf yn credu bod ymateb y Gweinidog yn rhoi digon o ystyriaeth i’r newidiadau hinsawdd a’r effaith ar y cyfnod a ganiateir (Hydref i Fawrth) a sut mae hyn yn newid yn y presennol ac yn newid yn gyflym yn y blynyddoedd i ddod (gyda sylw i lythyr blaenorol RSPB Cymru ar y mater). Wrth ddarllen y sylwadau am nythod Hebog Dramor mae'n anodd credu y bu'r gweinidog, fel llawer ohonom, yn dyst i dân sydd allan o reolaeth gyda’r mwg a difrod - ond rhaid pwysleisio,  hyd yn oed heb ddifrod uniongyrchol i nythod mae llosgi’n sicr o gael effaith ar adar sydd yn nythu gerllaw. Yn ogystal ni chredaf fod digon o ystyriaeth i’r effaith ar greaduriaid eraill fel y wiber. 

Mae torri yn opsiwn llawer llai dinistriol, gyda llai o risg, a llai o drawiad ar fywyd gwyllt a’r amgylchedd. Fel Gweinidog am Newid Hinsawdd mae’n synnu fi nad oes ystyriaeth i’r ffaith bod llosgi yn golygu rhyddhau carbon yn sylweddol. Hoffwn bwysleisio eto bod y CCC (Climate Change Committee) yn galw ar llywodraethau y DU i ddod a llosgi dan reolaeth i ben er mwyn gwarchod y “carbon sink” pwysig hon.  

Anghytunaf yn gryf bod unrhyw fudd i losgi na allai gael ei gyflawni mewn ffordd llawer mwy cynaliadwy trwy dorri. Hwylustod i’r perchennog tir yn unig ac nid budd i fywyd gwyllt sydd wrth wraidd parhau'r ymarfer. Ac yn yr amser yma o argyfwng bioamrywiaeth, a hinsawdd, rhaid i ni weld heibio hyn. Mae’n deud llawer bod sylw i’r rugiar goch yn llythyr y Gweinidog - rhywogaeth sydd yn neud yn hynod o dda yn ein hucheldiroedd ac er yn anfanteisiol i weddill bywyd gwyllt mae'n cael  gwarchodaeth oherwydd bod elw i’w wneud. 

Yn gywir